Aneirin Karadog
Mae Aneirin Karadog yn fardd, perfformiwr, rapiwr, darlledwr ac ieithydd. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yng nghymoedd de Cymru. Mae’n fardd arobryn, gan ennill rhai o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ynghyd â’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Bu Aneirin yn Fardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015.
Ar ôl gweithio am ddegawd fel cyflwynydd teledu, dychwelodd Aneirin at y byd academaidd i gwblhau PhD mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae bellach wedi troi ei dalentau at ysgrifennu llyfrau i blant.
Dywedodd Aneirin: “Barddoniaeth, darlledu ac ieithoedd – tri maes lle rwyf yn fy elfen, a gorau oll os oes modd cyfuno’r tri! Mae ysgrifennu a meddwl am farddoniaeth yn rhan hanfodol o fy mywyd bob dydd ac rwy’n parhau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer cydweithio, am brofiadau newydd a chyfle i ehangu fy ngorwelion.”
Aneirin Karadog is a poet, performer, rapper, broadcaster, and linguist. Born in St Asaph and raised in the valleys of South Wales. Aneirin is a multi-award-winning poet winning prestigious accolades in the Royal National Eisteddfod and ‘The Chair’ prize at the National Urdd Eisteddfod. Aneirin was appointed Bardd Plant Cymru (Wales’s Children’s Poet Laureate) from 2013 to 2015.
After working for a decade as a TV presenter, Aneirin returned to academia to undertake a PhD in Welsh creative writing at Swansea university, and has now turned his talents to writing children’s books.
Aneirin says “Poetry, broadcasting and languages, three fields where I am in my element. Even better if it’s possible to combine all three! Writing and thinking about poetry is an essential part of my daily life and I continue to look for opportunities for collaboration, for new experiences and to broaden my horizons.”